Digwyddiad Pwyllgor Gweithredol Prifysgol Abertawe - 20 Chwefror 2009
Aeth Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd Confensiwn Cymru Gyfan yn ôl i'r ddarlithfa ddydd Gwener i siarad â myfyrwyr Prifysgol Abertawe.
Dyddiad y Digwyddiad: 20/02/2009
Daeth tua 60 o fyfyrwyr a darlithwyr ynghyd i drafod yr ymgynghoriad cyhoeddus, a’r materion o blaid ac yn erbyn pwerau deddfwriaethol pellach i Gymru.
Bu cynrychiolwyr o gymdeithasau'r Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn bresennol, ond y gymdeithas ddadlau'n sicr oedd wedi gwneud ei gwaith cartref gan ei bod eisoes wedi cynnal ei dadl fywiog ei hun y noson cynt!
Diolchodd James Houston, Llywydd Undeb y Myfyrwyr i Syr Emyr am gyflwyno'r ddadl fywiog hon i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ac am eu hannog i gyfrannu yng Nghonfensiwn Cymru Gyfan.
Am restr lawn o'n holl ddigwyddiadau ewch i'r dudalen 'digwyddiadau i ddod'. Yn y cyfamser, gallwch gyflwyno'ch barn drwy fynd i'r adran 'Mynnwch gyfrannu' ar ein gwefan.
