Digwyddiad Cyhoeddus Torfaen - 1 April 2009
Dyddiad y Digwyddiad: 01/04/2009
Cadeiriodd Mai Davies, y newyddiadurwraig a'r cyflwynydd gwleidyddol y digwyddiad a fynychwyd gan dros 50 o bobl.
Gwahoddwyd y rhai a oedd yn bresennol i holi cwestiynau i banel a oedd yno i helpu i hwyluso ac ysgogi'r drafodaeth.
Ymhlith aelodau'r panel roedd Richard Morgan, arweinydd Grŵp Trafod Tor-faen ar gyfer Dyfodol Datganoli; Dr Janet Wademan o Van Helsing Ltd; a'r Cynghorydd Annibynnol o Gyngor Bwrdeistref Sirol Tor-faen, Fred Wildgust.
Roedd Syr Emyr Jones Parry, Cadeirydd y Confensiwn hefyd ar y panel, a bu'n rhoi trosolwg o nodau'r Confensiwn, a phwerau deddfu cyfredol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yn ystod y digwyddiad, gwahoddwyd y rhai a oedd yn bresennol i holi cwestiynau i aelodau'r panel. Roedd cymysgedd amrywiol o gwestiynau a sylwadau gan y gynulleidfa, a arweiniodd at drafodaeth fywiog ar adegau.
Cafodd y rhai a oedd yn bresennol badiau pleidleisio rhyngweithiol hefyd i gofnodi eu hymatebion i gwestiynau allweddol, gan roi cyfle i bawb yn y gynulleidfa roi eu barn ar y materion a drafodwyd.
Roedd gwasanaethau cyhoeddus yn faes trafod allweddol a arweiniodd at rai pwyntiau diddorol ym meysyd darpariaeth gofal iechyd ac addysg:
- Roedd 65 y cant o'r rhai a oedd yn bresennol yn teimlo bod y gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir wedi gwaethygu ers i'r Cynulliad gael ei ffurfio;
- Tra roedd 23 y cant yn anghytuno a 12 y cant yn nodi eu bod yn ansicr a oedd gwasanaethau cyhoeddus wedi gwaethygu.
Roedd cost y Cynulliad Cenedlaethol hefyd yn fater a drafodwyd yn frwd gyda 59 y cant o'r rhai a oedd yn bresennol yn teimlo bod y Cynulliad wedi bod yn wastraff arian hyd yn hyn. Anghytunodd 30 y cant o'r rhai a oedd yn bresennol.
Pan ofynnwyd i'r gynulleidfa sut y byddai'n pleidleisio pe bai refferendwm yn cael ei gynnal:
- Dywedodd 92 y cant o'r rhai a oedd yn bresennol y byddent yn pleidleisio pe bai refferendwm yn cael ei gynnal ar bwerau deddfu.
- O'r rhain, roedd 36 y cant o blaid rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad i gyd ar unwaith, ond byddai 64 y cant yn pleidleisio i gadw'r sefyllfa bresennol o gael pwerau gam wrth gam gyda chytundeb Senedd y DU.
Yn dilyn y digwyddiad, bu tîm o staff ac Aelodau o Bwyllgor Gweithredol y Confensiwn yn sgwrsio â'r gwesteion dros baned o de a choffi.
Hwn oedd y deuddegfed digwyddiad mewn cyfres o 22 o gyfarfodydd cyhoeddus i'w cynnal ledled Cymru i geisio ymgysylltu â'r cyhoedd yng Nghymru.
Bydd digwyddiad 'Hawl i Holi' nesaf Confensiwn Cymru Gyfan yn teithio i Ogledd-ddwyrain Cymru, a chaiff ei gynnal yn Ysgol gynradd Bryn Coch yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, ddydd Mercher 22 Ebrill.
