Cynhadledd flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Llandudno - Digwyddiad Pwyllgor Gweithredol 10 Hydref 2008
Dyddiad y Digwyddiad: 10/10/2008
Mewn sesiwn lle siaradodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus Paul Murphy AS, a Llywydd y Cynulliad Dafydd Elis-Thomas hefyd, rhannodd Emyr â'r gynulleidfa ei argraffiadau o'r hyn sydd wedi'i gyflawni yn sgîl datganoli, a sut y mae hyn yn rhan o'r darlun cyffredinol o Gymru sydd â'i bryd ar fod yn agored a rhyngwladol. Mae meddwl yn rhyngwladol yn hanfodol, gan fod materion byd-eang fel newid yn yr hinsawdd, mudo, llygredd, terfysgaeth ac ynni oll yn cael effaith leol, ac yn aml awdurdodau lleol sy'n dwyn y baich mwyaf.
Amlinellodd Emyr ei farn fod pobl Cymru yn derbyn datganoli yn fwy. Maent yn gweld ac yn deall y penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru mewn perthynas ag iechyd, addysg a materion economaidd.
Ond mae'r broses ddeddfu yn un gymhleth ac ar y cyfan nid yw pobl yn ei deall. Rhoddodd Emyr bedair enghraifft o bwyntiau mae'n debyg nad yw'r cyhoedd yng Nghymru yn eu deall yn gyffredinol:
- Bellach mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddau gorff unigryw, ar wahân
- Gweinidogion yn Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n gwneud y rhan fwyaf o'r penderfyniadau deddfwriaethol, er mwyn datblygu pwyntiau polisi manwl
- Ar hyn o bryd mae pwerau deddfu'r Cynulliad, i greu deddfau sy'n cael yr un effaith â deddfwriaeth sylfaenol, yn gyfyngedig iawn
- Mae llwybrau gwahanol ar gael i gynyddu pwerau deddfu'r Cynulliad, gan gynnwys cynyddu ei bwerau drwy'r broses Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol bresennol, a'r potensial, drwy broses sy'n cynnwys refferendwm, i drosglwyddo swmp o bwerau i'r Cynulliad yng Nghaerdydd
Eglurodd Emyr mai gwaith y Confensiwn yw:
- Dod â'r materion i sylw pobl Cymru ac ysgogi dadl
- Egluro'r pwerau cyfredol ac ystyried sut y mae'r pwerau cyfredol wedi cael eu defnyddio, gan ei bod yn rhesymol bod y cyhoedd yng Nghymru yn cael sicrwydd bod y pwerau cyfredol wedi eu defnyddio'n effeithiol os ydynt yn ystyried p'un a ddylai'r Cynulliad ennill rhagor o bwerau
- Canfod a yw'r cyhoedd yn cefnogi'r system gyfredol i'r Cynulliad ennill pwerau deddfu cam wrth gam, neu a fyddai'r cyhoedd yn cefnogi'r Cynulliad yn cael swmp o bwerau (fel y gallai ddigwydd yn dilyn refferendwm)
- Canfod goblygiadau'r system gyfredol a'r posibilrwydd o gael swmp o bwerau yn dilyn refferendwm - er enghraifft o ran llywodraethu neu allu'r gwasanaeth sifil a'r system gyfreithiol
- Ystyried pob dadl a'u craffu'n drylwyr.
Pwysleisiodd Emyr mai nod y Confensiwn yw gwrando ar unrhyw farn ar unrhyw agwedd, a'i hystyried, gan unrhyw un mewn unrhyw ran o Gymru.
O ran sut y mae gwaith y Confensiwn yn mynd rhagddo, amlinellodd Emyr nifer o ffrydiau gwaith gan gynnwys:
- Gweithio gyda 15 o grwpiau rhanddeiliaid sy'n lledaenu gwybodaeth
- Cynyddu'r defnydd o'n gwefan a'r drafodaeth ar Facebook, gyda chynlluniau i wneud y wefan yn fwy rhyngweithiol wrth i'r broses barhau
- Cynllunio gwaith gyda chynghorau ysgolion ledled Cymru
- Gwahodd pobl a sefydliadau â diddordeb - gan gynnwys CLlLC - i gyflwyno tystiolaeth ffurfiol i'r Confensiwn
- Strategaeth cysylltiadau a chyfryngau weithredol ac amlweddol i gyrraedd Gwerin Cymru
- Cyfarfodydd a digwyddiadau ffurfiol ac anffurfiol fel bo'r cyfle'n codi.
Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo a bydd yn parhau ledled Cymru, tan fis Gorffennaf 2009.
Pwysleisiodd Emyr nad ei swydd ef yw dadlau o blaid refferendwm, a llai byth dadlau dros ganlyniad penodol - y gwleidyddion ddylai ystyried hynny ar ôl i adroddiad y Confensiwn gael ei gyflwyno iddynt.
Yn y cyfamser, rydym am gael cyfraniadau - gall pob cyfrannwr gymryd rhan yn y Confensiwn.
Apeliodd Emyr hefyd yn uniongyrchol i'r gynulleidfa helpu i ysgogi'r ddadl. Mae'r Confensiwn am gael cyfranogiad a chymorth ymarferol CLlLC a'r awdurdodau y mae'n eu cynrychioli, ac mae eu hangen arno, drwy drafodaethau, papurau newydd awdurdodau lleol, neu unrhyw ddigwyddiad buddiol.
