Digwyddiad Cyhoeddus Wrecsam – 23 Ebrill 2009
Dyddiad y Digwyddiad: 23/04/2009
Grŵp trafod oedd yr achlysur, yn cynnwys trafodaeth agored gyda’r aelodau’n gallu holi cwestiynau am yr opsiynau sydd ar gael yn y dyfodol ar gyfer pwerau llunio deddfwriaethau yng Nghymru, yn ogystal â mynegi eu barn eu hunain am y broses bresennol o lunio deddfwriaethau.
Cadeiriwyd yr achlysur gan y cyn-gyflwynydd ar ITV, Arfon Haines-Davies, a denodd bron i 30 o bobl.
Croesawodd Mr Andrew Parry, Ymgynghorydd i’r Is-Ganghellor yn y Brifysgol, bawb a oedd yn bresennol ar y noson.
Mynegwyd teimladau cymysg gan y gynulleidfa ynghylch pa un ai ddylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael mwy o bwerau ai peidio, gyda dadleuon cryf iawn o blaid ac yn erbyn.
Teimlai rhai pobl bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ‘rhoi gormod o bwyslais ar Dde Cymru’ ac meddai un person:
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn rhoi’r argraff o fod wedi ymgolli gormod yn ei bwysigrwydd canolog ei hun a materion yn gwasanaethu De Cymru.
Anghytunai eraill gan ddweud bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi bod o fudd eang i bobl Cymru, ac meddai un a oedd yn bresennol:
Hyd yma mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gweithio’n dda i Gymru ac mae’r bobl yn teimlo bod gan ACau ddealltwriaeth go iawn ar lefel gyffredin, ac nad yw hynny’n wir am ASau.
Roedd yr achlysur hwn yn rhan o gyfres o 22 o gyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd ledled Cymru gan y Confensiwn, gyda’r nod o weithio gyda’r cyhoedd yng Nghymru.
