Skip to content

Hawl i Holi’r Confensiwn, Eisteddfod Genedlaethol 2009.

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Hawl i Holi’r Confensiwn, Eisteddfod Genedlaethol 2009.

Flwyddyn yn ôl, roeddwn yn yr Eisteddfod yng nghaeau Llandaf yng Nghaerdydd, wrth i ni ddechrau ar daith Confensiwn Cymru Gyfan.

Ar y diwrnod hwnnw, cefais gwmni dau gyd-aelod o'r pwyllgor gweithredol - Nick Bennett ac Aled Edwards - wrth i ni ateb cwestiynau am Gonfensiwn Cymru Gyfan gan gynulleidfa'r Eisteddfod.

Un o'r cwestiynau ar y diwrnod hwnnw yng Nghaerdydd, oedd pa mor eang fyddai'r drafodaeth, a sut y fydden ni’n yn cynnwys y cyhoedd yng Nghymru yn y drafodaeth?

Wel, fe ddywedon ni ar y pryd y bydden ni’n rhoi'r cyfle i bawb yng Nghymru i roi eu sylwadau i ni, a rwy’n credu ein bod wedi gwneud hynny.

Mae cyfathrebu â phobl Cymru a gwrando ar eu sylwadau wedi bod wrth wraidd ein gwaith.

Rydym wedi gwneud hyn mewn sawl ffordd wahanol - am nad oes un ffordd hawdd o gyfathrebu â phobl Cymru, gyda'i chymunedau amrywiol a'i daearyddiaeth heriol.  Efallai fod Cymru’n fach, ond nid yw'n hawdd mynd o un pen iddi i'r llall!  (er, dwi wedi llwyddo i wneud hynny heb 'sat nav'...)

Mae taith Confensiwn Cymru Gyfan wedi mynd â ni ledled Cymru, gyda chyfres o 23 o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled y wlad, o leiaf un ymhob sir.  Rydym wedi siarad â bron 2000 o bobl yn y digwyddiadau hyn yn unig.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi cynnal 13 o sesiynau casglu tystiolaeth ffurfiol, wedi gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig ffurfiol, ac wedi sefydlu gwefan ryngweithiol lle mae pobl yn rhoi eu barn, a gallant barhau i wneud hynny hyd at 21 Awst.  Rydym hefyd wedi sefydlu grŵp Facebook, wedi gweithio gyda phobl ifanc a phartneriaid amrywiol a grwpiau â diddordeb, ac wedi cysylltu â'r cyfryngau yng Nghymru - teledu, papurau newydd, radio a phapurau bro - i gyfleu ein neges.

Weithiau, rwy'n synnu cymaint rydyn ni wedi llwyddo i'w wneud o fewn blwyddyn.

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi i mi, a holl aelodau'r pwyllgor gweithredol rwy'n siŵr, ddarlun unigryw a diddorol o safbwyntiau pobl ledled Cymru.  

Bu'n daith oleuedig i bob un ohonom.

Cychwynodd y daith gyda phryd tecawê Indiaidd - dwi'n amau a yw unrhyw decawê wedi bod yn destun cymaint o gyhoeddusrwydd erioed! Fe ddysgon ni lawer o'r digwyddiad hwnnw ym Mhort Talbot - am rai o'r safbwyntiau roedden ni’n debygol o'u clywed ar hyd y ffordd, a sut yr oedd pobl am eu mynegi.

Fe geision ni fod yn arloesol ar hyd y ffordd – roedden ni’n yn awyddus i siarad â phobl o bob cefndir ac mewn lleoliadau a chyd-destunau gwahanol. Felly, aethon ni i ymuno â phobl yn eu dosbarthiadau dawnsio, buom yn cael peintio ein hewinedd ac fe ymunon ni â phobl wrth iddynt fynd i siopa.  Hyn i gyd er mwyn eu holi am y Cynulliad Cenedlaethol a beth oedd eu barn amdano'n cael pwerau deddfu pellach.

Rwyf i ac aelodau eraill o'r Confensiwn wedi teithio milltiroedd ledled Cymru yn cwrdd ag unigolion a sefydliadau i glywed eu tystiolaeth.

Rwyf wedi rhannu gwesty ag ysbryd Robin Ddrwg yn Neuadd Maesmawr yn y Drenewydd - doedd ganddo ddim sylwadau i'w rhoi ar y Cynulliad. Dwi ddim yn meddwl ei fod wedi fy adnabod, a dyma oedd fy mhrofiad mewn rhai mannau eraill hefyd. Rwy'n gyfarwydd iawn erbyn hyn â chael fy ngalw'n Emyr Parry Jones; soniodd rhywun o Dde America wrthai unwaith fod pawb yn gwybod mai dyma sut y dylai fod, yn hytrach na Jones Parry. Ond clywais enw newydd amdanaf eto’r diwrnod o'r blaen, ar ymweliad â Media Wales, pan gefais fy ailfedyddio yn Emma Jones Parry.

Rydyn ni wedi clywed gan ystod o unigolion a sefydliadau o undebau ffermio i heddluoedd yng Nghymru, i olygyddion papurau newydd lleol, i'r Prif Weinidog, i Mrs Jones yn Llanrug a Mrs Jones ym Monymaen.

Rydyn ni wedi cymryd amser i wrando ar safbwyntiau pobl ifanc ar hyd y ffordd. Rydyn ni’n clywed yn aml nad oes gan bobl ifanc ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth neu faterion cyfoes. Wel, dwi wedi gweld a chlywed rhai enghreifftiau gwych sy'n mynd yn groes i hynny - cystadleuaeth siarad cyhoeddus Eisteddfod yr Urdd yn bennaf, ynghyd âg ymweliadau â nifer o ysgolion mewn ardaloedd gwahanol o'r wlad.

Felly beth yw'r sefyllfa nawr?

Wel, mae gyda ni dros 500 o ddarnau o dystiolaeth ysgrifenedig , tystiolaeth o 13 o sesiynau wyneb yn wyneb, tystiolaeth o'n digwyddiadau cyhoeddus a ffurflenni ar-lein, ac rydym yn darllen drwy'r cyfan yn ofalus i wneud yn siŵr ein bod yn nodi ac yn dadansoddi'r holl dystiolaeth rydym wedi'i derbyn.

Bydd gyda ni ganlyniadau terfynol ein rhaglen ymchwil gymdeithasol gynhwysfawr yn fuan iawn hefyd.

‘Dyn ni wedi clywed dadleuon o blaid ac yn erbyn dwy ochr y ddadl.  Byddwn yn amlinellu'r dadleuon hyn yn ein hadroddiad, ac yn eu defnyddio i lunio ein casgliadau terfynol ynghylch pwerau'r Cynulliad a safbwyntiau pobl arnynt.

Felly, beth ydyn ni wedi'i glywed?

Wel, o ran cael mwy o bwerau, mae rhai pobl yn teimlo bod y ffordd mae'n rhaid ymbil bob tro mae angen pwerau i wneud newidiadau yng Nghymru yn ddiraddiol.  Os yw datganoli wedi digwydd, pam na all y Cynulliad fynd ati i ddeddfu yn hytrach na threulio amser ac arian yn ceisio cael yr hawl i ddeddfu.  Os gall yr Alban wneud hynny, pam ddim Cymru?

Mae pobl wedi dweud hefyd eu bod o'r farn bod y system bresennol yn gymhleth, yn anhryloyw ac yn llafurus - byddai'n llawer haws i'w deall pe bai gan y Cynulliad bwerau i ddeddfu yn yr un meysydd lle gall Llywodraeth y Cynulliad weithredu polisi.  Byddai'n caniatáu dull mwy strategol a chynhwysfawr o ddeddfu hefyd.

Ar y llaw arall, ry’n ni wedi clywed barn o blaid aros gyda'r system bresennol o geisio pwerau fesul cam.  Un o'r rhain yw bod y system bresennol yn rhoi'r cyfle i'r Cynulliad ddod yn gyfarwydd, yn raddol, â gweithio fel corff deddfu, a meithrin profiad ac arbenigedd dros nifer o flynyddoedd.  Mae San Steffan hefyd yn darparu elfen graffu ychwanegol ddefnyddiol.  

Yn gysylltiedig â hyn mae'r ddadl bod angen i'r system bresennol gael amser i ymsefydlu cyn ystyried symud ymlaen i system newydd - mae llawer o'r farn bod y system bresennol yn dechrau dod yn fwy cynhyrchiol ac effeithlon, a bod angen rhoi cyfle iddi weithio.  Mae'r broses o ddeddfu yn San Steffan yn gymhleth a llafurus ynddi'i hun.

Rydyn ni’n bwriadu cyflwyno adroddiad ym mis Tachwedd, a byddwn yn pwyso a mesur yr hyn ry’n ni wedi'i glywed fel manteision ac anfanteision y system bresennol ac o ran rhoi mwy o bwerau i'r Cynulliad i gyd ar unwaith.  

Mae pobl Cymru yn bositif ynghylch datganoli.  Ond wrth edrych ar roi mwy o bwerau i'r Cynulliad, bydd hanes y Cynulliad a Llywodraeth y Cynulliad yn dylanwadu arnynt.  Mae llawer wedi gofyn hefyd ar gyfer beth fyddai pwerau deddfu ychwanegol yn cael eu defnyddio.  I eraill, mae'r hanes yn llai perthnasol - mae angen i'r Cynulliad gael yr offer i wneud y gwaith.

Rydym yn edrych ar sut mae'r Cynulliad yn cael pwerau ar hyn o bryd, a sut mae hyn yn cymharu â rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad ym mhob un o'r meysydd polisi datganoledig i gyd ar unwaith.  Beth allwn ei ddweud am effaith rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad i gyd ar unwaith - oes llawer o syniadau ynghylch sut i ddefnyddio'r pwerau hynny?  Ac a oes gan Lywodraeth y Cynulliad, y Cynulliad a chymdeithas sifil yng Nghymru y gallu ac adnoddau a'r sgiliau angenrheidiol?

Byddwn yn dadansoddi’r ddarpariaeth ar gyfer refferendwm, a'r ffactorau a fyddai'n dylanwadu ar bleidleiswyr.  Rydym wedi casglu nifer sylweddol o sylwadau, a bydd y canlyniadau hynny ar gael ym mis Medi.  Efallai bydd hyn yn ein helpu i weld sut mae'r dirwasgiad economaidd a'r sgandal gwleidyddol yn effeithio ar barodrwydd pobl i gefnogi mwy o bwerau.

Byddwn hefyd yn trafod sut mae datganoli yn gweithio o fewn cyd-destun y DU - gan ystyried sut mae datganoli yn wahanol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  A fyddwn ni ddim yn anghofio am y dimensiwn Ewropeaidd a rhyngwladol chwaith.

Mae llawer o waith wedi'i wneud.  Rydyn ni nawr yn dadansoddi'r cyfraniadau.   Bydd y pwyllgor yn cyfarfod sawl gwaith ym mis Medi i ystyried ein casgliad a pharatoi ein hadroddiad terfynol.

Gallai addo y byddwn yn cofnodi safbwyntiau pobl ar fwy o bwerau i'r Cynulliad yn deg ac yn gywir. Nid mater i'r Confensiwn yw gwneud penderfyniad ar y refferendwm.  Bydd y Gweinidogion yn cael ein hadroddiad, a fydd yn llawn dadleuon a safbwyntiau.  Y gwleidyddion fydd yn penderfynu ar y ffordd ymlaen wedi hynny.

Dolenni perthnasol

Gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd wedi'u cynnal.