Beth yw RSS?
Ystyr RSS yw 'Syndicetiad Syml Iawn' (Really Simple Syndication) ac mae'n sicrhau bod gwybodaeth yn gallu cael ei hanfon at ddefnyddiwr yn hytrach na bod y defnyddiwr yn gorfod chwilio am yr wybodaeth. Mae hyn yn golygu y gallwch gael y newyddion diweddaraf o'ch hoff wefannau heb orfod ymweld â hwy. Mae'n union fel tanysgrifio drwy'r post er mwyn derbyn eich hoff gylchgrawn.
Sut mae defnyddio RSS?
Er mwyn defnyddio RSS mae'n rhaid bodloni dau amod.
- Y cyntaf yw bod rhaid i ddefnyddwyr gael 'darllenydd newyddion RSS’. Mae'r rhaglen yn casglu gwybodaeth o wefannau RSS ac yn trosglwyddo'r wybodaeth honno yn destun a dolenni y mae'r defnyddiwr yn gallu pori ynddynt yn ei bwysau ei hun.
- Yr ail amod yw bod rhaid i'r wefan gael cyflenwad RSS sydd wedi'i sefydlu'n benodol i weithio gyda'r darllenydd newyddion RSS. Mae gan y mwyafrif o'r prif wefannau newyddion systemau o'r fath bellach a mae'n hawdd eu hadnabod drwy'r blwch oren sy'n dangos RSS neu XML yn union fel sydd i'w weld ar frig y dudalen hon.
Unwaith y bydd gennych becyn gwylio RSS, cliciwch yn y blwch oren er mwyn agor y dudalen RSS.
Sut mae cael pecyn gwylio RSS?
Mae nifer o wahanol fathau o ddarllenwyr newyddion RSS ar gael sy'n rhad ac am ddim, ac mae rhai ohonynt wedi'u rhestru isod:
(Bydd y dolenni yn eich trosglwyddo i wefannau allanol)
- Darllenwyr RSS ar y we: Bloglines, Google Reader
- Darllenwyr RSS Windows y gellir eu lawrlwytho: SharpReader
- Darllenwyr RSS Mac OS X y gellir eu lawrlwytho: Shrook
Mae eraill ar gael, chwiliwch am 'Free RSS readers' yn eich hoff chwilotwr.
